Psalms 75:8
8Oes, mae cwpan yn llaw'r Arglwyddac mae'r gwin ynddi yn ewynnu ac wedi ei gymysgu.
Bydd yn ei dywallt allan,
a bydd y rhai drwg ar y ddaear yn ei yfed –
yn yfed pob diferyn!
Isaiah 51:22-23
22Dyma mae dy feistr, yr Arglwydd, yn ei ddweud,y Duw sy'n dadlau achos ei bobl:
“Edrych! Dw i wedi cymryd y cwpan meddwol o dy law di,
y gostrel rois i i ti yn fy llid.
Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!
23Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesu
a dweud wrthot, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti’ –
Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod
fel stryd i bobl ei sathru.”
Lamentations 4:21
21Chwarddwch chi am y tro, bobl Edom, aa chi sy'n byw yn ngwlad Us,
ond mae'ch tro chi yn dod!
Bydd rhaid i chithau yfed o gwpan barn Duw,
nes byddwch chi'n feddw ac yn noeth.
Copyright information for
CYM