a2 Samuel 15:13—17:22
 

‏ Psalms 3

Gweddi yn y bore

Salm gan Dafydd pan oedd yn ffoi oddi wrth ei fab Absalom. a

1O Arglwydd, mae gen i gymaint o elynion!
Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i.
2Mae cymaint ohonyn nhw'n dweud,
“Fydd Duw ddim yn dod i'w achub e!”

 Saib
3Ond Arglwydd, rwyt ti fel tarian o'm cwmpas.
Ti ydy'r Un dw i'n brolio amdano!
Ti ydy'r Un sy'n rhoi hyder i mi.
4Dim ond i mi weiddi'n uchel ar yr Arglwydd,
bydd e'n fy ateb i o'i fynydd cysegredig.

 Saib
5Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro,
am fod yr Arglwydd yn gofalu amdana i.
6Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr
sy'n ymosod arna i o bob cyfeiriad.
7Côd, Arglwydd!
Achub fi, O fy Nuw.
Rho glatsien iawn i'm gelynion i gyd.
Torra ddannedd y rhai drwg.
8“Yr Arglwydd sy'n achub!”
Rwyt ti'n bendithio dy bobl!

 Saib
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.