‏ Proverbs 8

Doethineb yn galw

1Mae doethineb yn galw,
a deall yn codi ei llais.
2Mae hi'n sefyll ar fannau uchaf y dref,
wrth ymyl y croesffyrdd,
3ac wrth ymyl giatiau'r ddinas.
Mae hi'n gweiddi wrth y fynedfa,
4“Dw i'n galw arnoch chi i gyd, bobl!
Dw i'n galw ar y ddynoliaeth gyfan.
5Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall;
chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth.
6Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i'w dweud;
dw i am ddweud beth sy'n iawn wrthoch chi.
7Dw i bob amser yn dweud y gwir;
mae'n gas gen i gelwydd.
8Mae pob gair dw i'n ddweud yn iawn,
does dim twyll, dim celwydd.
9Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall,
ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.
10Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian;
ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.”
11Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr;
does dim byd tebyg iddi.
12“Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb;
fi sy'n dangos y ffordd iawn i bobl. a
13Mae parchu'r Arglwydd yn golygu casáu'r drwg.
Dw i'n casáu balchder snobyddlyd,
pob ymddygiad drwg a thwyll.
14Fi sy'n rhoi cyngor doeth,
fi ydy'r ffordd orau a fi sy'n rhoi cryfder.
15Fi sy'n rhoi'r gallu i frenhinoedd deyrnasu,
ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn.
16Dw i'n galluogi arweinwyr i reoli,
a pobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn.
17Dw i'n caru'r rhai sy'n fy ngharu i,
ac mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn fy nghael.
18Dw i'n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl,
cyfoeth sy'n para, a thegwch.
19Mae fy ffrwyth i yn well nag aur, ie, aur coeth,
a'r cynnyrch sydd gen i yn well na'r arian gorau.
20Dw i'n dangos y ffordd i fyw'n gyfiawn,
a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg.
21Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu;
ac yn llenwi eu trysordai nhw.
22Roedd yr Arglwydd wedi fy ngeni i
cyn iddo wneud dim byd arall.
23Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl,
ar y dechrau cyntaf, cyn i'r ddaear fodoli.
24Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i,
a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr.
25Doedd y mynyddoedd ddim wedi eu gosod yn eu lle,
a doedd y bryniau ddim yn bodoli.
26Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna,
na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd.
27Roeddwn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le;
a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd.
28Pan roddodd y cymylau yn yr awyr,
a pan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr.
29Pan osododd ffiniau i'r môr,
fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo;
a pan osododd sylfeini'r ddaear.
30Roeddwn i yno fel crefftwr,
yn rhoi pleser pur iddo bob dydd,
wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen.
31Roeddwn i'n dawnsio ar wyneb y ddaear,
ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi.
32Nawr, blant, gwrandwch arna i;
Mae'r rhai sy'n gwneud beth dw i'n ddweud mor hapus.
33Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud a byddwch ddoeth;
peidiwch troi cefn arno.
34Mae'r rhai sy'n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith,
maen nhw'n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd,
yn disgwyl i mi ddod allan.
35Mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn cael bywyd;
mae'r Arglwydd yn dda atyn nhw.
36Ond mae'r rhai sy'n pasio heibio i mi yn peryglu eu hunain;
mae pawb sy'n fy nghasáu i yn caru marwolaeth.”
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.