agw. Deuteronomium 15:11
cgw. Ioan 2:19
ecyfeiriad at Salm 110:1 a Daniel 7:13 (gw. hefyd Mathew 24:30)
fgw. Eseia 50:6
Matthew 26
Y cynllwyn yn erbyn Iesu
(Marc 14:1,2; Luc 22:1,2; Ioan 11:45-53) 1Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, meddai wrth ei ddisgyblion, 2“Fel dych chi'n gwybod, mae'n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'm croeshoelio.” 3Yr un adeg, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad, 4i drafod sut allen nhw arestio Iesu a'i ladd. 5“Ond dim yn ystod yr Ŵyl,” medden nhw, “neu bydd reiat.”Eneinio Iesu yn Bethania
(Marc 14:3-9; Ioan 12:1-8) 6Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛. 7Roedd yno'n bwyta pan ddaeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr drud, a thywallt y persawr ar ei ben. 8Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi'n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw, 9“Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am arian mawr, a rhoi'r cwbl i bobl dlawd.” 10Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i'r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. 11Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, a ond fydda i ddim yma bob amser. 12Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu. 13Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”Jwdas yn cytuno i fradychu Iesu
(Marc 14:10,11; Luc 22:3-6) 14Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid 15a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os wna i ei fradychu e?” A dyma nhw'n cytuno i roi tri deg darn arian iddo. 16O hynny ymlaen roedd Jwdas yn edrych am ei gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.Y Swper Olaf
(Marc 14:12-26; Luc 22:7-23; Ioan 13:21-30; 1 Corinthiaid 11:23-25) 17Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, gofynnodd y disgyblion i Iesu, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd i'w baratoi.” 18“Ewch i'r ddinas at hwn a hwn,” meddai. “Dwedwch wrtho: ‘Mae'r athro'n dweud fod yr amser wedi dod. Mae am ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion yn dy dŷ di.’” 19Felly dyma'r disgyblion yn gwneud yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, ac yn paratoi swper y Pasg yno. 20Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda'r deuddeg disgybl. 21Tra roedden nhw'n bwyta, meddai wrthyn nhw, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.” 22Roedden nhw'n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy'r un, nage?” 23Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi yn fy mradychu i – un ohonoch chi sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi. 24Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!” 25Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy'r un, nage?” “Ti sydd wedi dweud,” atebodd Iesu. 26Tra oedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a'i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.” 27Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a'i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. 28Dyma fy ngwaed, sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. 29Wir i chi – fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw'r dydd pan fydda i'n ei yfed o'r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.” 30Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.Iesu'n dweud fod Pedr yn mynd i'w wadu
(Marc 14:27-31; Luc 22:31-34; Ioan 13:36-38) 31“Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail,a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’ b
32Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o'ch blaen chi i Galilea.” 33Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” 34“Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i.” 35Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth.
Gethsemane
(Marc 14:32-42; Luc 22:39-46) 36Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd draw acw i weddïo.” 37Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. 38“Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” 39Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” 40Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? 41Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” 42Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” 43Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. 44Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith. 45Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. 46Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!”Arestio Iesu
(Marc 14:43-50; Luc 22:47-53; Ioan 18:3-12) 47Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o'r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi eu hanfon nhw i ddal Iesu. 48Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn i'w arestio.” 49Aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Helo Rabbi!”, meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. 50“Gwna beth rwyt wedi dod yma i'w wneud gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio. 51Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. 52“Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy'n trin y cleddyf yn cael eu lladd gan y cleddyf. 53Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai'n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith? 54Ond sut wedyn fyddai'r ysgrifau sanctaidd sy'n dweud fod rhaid i hyn i gyd ddigwydd yn dod yn wir?” 55“Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu wrth y dyrfa oedd yno. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Roeddwn i'n eistedd yno bob dydd, yn dysgu'r bobl. 56Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i beth mae'r proffwydi'n ei ddweud yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.” Yna dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael ac yn dianc.O flaen y Sanhedrin
(Marc 14:53-65; Luc 22:54,55,63-71; Ioan 18:13,14,19-24) 57Dyma'r rhai oedd wedi arestio Iesu yn mynd ag e i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr eraill wedi dod at ei gilydd. 58Ond dyma Pedr yn dilyn o bell nes cyrraedd iard tŷ'r archoffeiriad. Aeth i mewn, ac eistedd i lawr gyda'r gweision diogelwch, a disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd. 59Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth. 60Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen 61a dweud, “Dwedodd y dyn yma, ‘Galla i ddinistrio teml Dduw a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod.’” c 62Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed a dweud wrth Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” 63Ond ddwedodd Iesu ddim. Yna dyma'r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i'n dy orchymyn di yn enw'r Duw byw i'n hateb ni! Ai ti ydy'r Meseia, mab Duw?” 64“Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti'n dweud. Ond dw i'n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r ▼▼26:64 llywodraethu gyda'r: Groeg, “yn eistedd ar ochr dde'r”
Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.” e 65Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu. 66Beth ydy'ch dyfarniad chi?” Dyma nhw'n ateb, “Rhaid iddo farw!” 67Yna dyma nhw'n poeri yn ei wyneb ac yn ei ddyrnu. Roedd rhai yn ei daro ar draws ei wyneb f 68ac yna'n dweud, “Tyrd! Proffwyda i ni, Feseia! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?” Pedr yn gwadu ei fod yn nabod Iesu
(Marc 14:66-72; Luc 22:56-62; Ioan 18:15-18,25-27) 69Yn y cyfamser, roedd Pedr yn eistedd allan yn yr iard, a dyma un o'r morynion yn dod ato a dweud, “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Galilead yna, Iesu!” 70Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr o flaen pawb. “Does gen i ddim syniad am beth wyt ti'n sôn,” meddai. 71Aeth allan at y fynedfa i'r iard, a dyma forwyn arall yn ei weld yno, a dweud wrth y bobl o'i chwmpas, “Roedd hwn gyda Iesu o Nasareth.” 72Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr eto gan daeru: “Dw i ddim yn nabod y dyn!” 73Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti'n un ohonyn nhw'n bendant! Mae'n amlwg oddi wrth dy acen di.” 74Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai. A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu. 75Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di'n fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crïo.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024