Joshua 10
Yr Ymgyrch i gyfeiriad y De
1Clywodd Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, fod Josua wedi concro Ai a lladd y brenin a phawb arall yno, fel roedd e wedi gwneud i Jericho. Clywodd hefyd fod pobl Gibeon wedi gwneud cytundeb heddwch gydag Israel, a'i bod nhw'n byw gyda nhw. 2Roedd e a'i bobl yn ofni am eu bywydau, achos roedd Gibeon yn dref fawr – roedd hi'n fwy na'r trefi brenhinol eraill i gyd, ac yn fwy nac Ai, a'i dynion i gyd yn ymladdwyr dewr. 3Felly dyma Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, yn anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal (y brenin Hoham yn Hebron, y brenin Piram yn Iarmwth, y brenin Jaffia yn Lachish, a'r brenin Debir yn Eglon): 4“Dewch gyda mi i ymosod ar Gibeon. Maen nhw wedi gwneud cytundeb heddwch gyda Josua a pobl Israel.” 5Felly dyma bum brenin yr Amoriaid (brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon) yn dod a'u byddinoedd at ei gilydd, ac yn amgylchynu Gibeon yn barod i ymosod arni. 6A dyma bobl Gibeon yn anfon neges at Josua yn y gwersyll yn Gilgal: “Paid troi cefn arnon ni, dy weision! Achub ni! Helpa ni! Mae brenhinoedd yr Amoriaid, sy'n byw yn y bryniau, wedi ymuno gyda'i gilydd i ymosod arnon ni.” 7Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan, gan gynnwys ei ddynion gorau, yn gadael y gwersyll yn Gilgal i'w helpu nhw. 8Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i ti. Fydd neb yn gallu dy rwystro di.” 9Ar ôl martsio drwy'r nos o Gilgal, dyma Josua yn ymosod arnyn nhw'n gwbl ddi-rybudd. 10Dyma'r Arglwydd yn gwneud iddyn nhw banicio, a cawson nhw eu trechu'n llwyr gan Israel yn Gibeon. A dyma byddin Israel yn mynd ar eu holau i lawr drwy fwlch Beth-choron, a lladd nifer fawr yr holl ffordd i Aseca a Macceda. ▼▼10:10 Macceda Pellter o tua 25 milltir i gyd.
11Wrth iddyn nhw ddianc oddi wrth byddin Israel i lawr Bwlch Beth-choron i Aseca, dyma'r Arglwydd yn gwneud iddi fwrw cenllysg anferth arnyn nhw. Cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg nag oedd wedi eu lladd gan fyddin Israel yn y frwydr! 12Ar y diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd wneud i Israel orchfygu'r Amoriaid, roedd Josua wedi gweddïo o flaen pobl Israel i gyd: “Haul, stopia yn yr awyruwch ben Gibeon.
Ti leuad, saf yn llonydd
uwch Dyffryn Aialon.” ▼
▼10:12,13 Dyffryn Aialon Dyffryn i'r de-orllewin o Fwlch Beth-choron.
13Felly dyma'r haul a'r lleuad
yn aros yn eu hunfan
nes i Israel ddial ar eu gelynion.
(Mae'r gerdd yma i'w chael yn Sgrôl Iashar.) ▼
▼10:13 Sgrôl Iashar sef “Sgrôl y Cyfiawn”. Casgliad o gerddi rhyfel falle.
Roedd yr haul wedi sefyll yn ei unfan drwy'r dydd, heb fachlud. 14Does dim diwrnod tebyg erioed wedi bod cyn hynny na wedyn! Diwrnod pan wnaeth yr Arglwydd wrando ar orchymyn dyn. Oedd, roedd yr Arglwydd yn ymladd dros bobl Israel! 15A dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal. Lladd pum brenin yr Amoriaid
16Roedd pum brenin yr Amoriaid wedi dianc a mynd i guddio mewn ogof yn Macceda. 17Pan glywodd Josua ble roedden nhw, 18dyma fe'n gorchymyn, “Rholiwch gerrig mawr i gau ceg yr ogof, a gosod dynion i'w gwarchod. 19Wedyn peidiwch oedi – ewch ar ôl y gelynion. Peidiwch gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i'w trefi. Mae'r Arglwydd eich Duw yn mynd i roi buddugoliaeth i chi.” 20Roedd Josua a byddin Israel wedi eu lladd nhw i gyd bron, er fod rhai wedi llwyddo i ddianc i'r caerau amddiffynnol. 21Yna dyma byddin Israel i gyd yn mynd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn. 22A dyma Josua yn gorchymyn, “Agorwch geg yr ogof, a dod â'r pum brenin allan ata i.” 23A dyma nhw'n gwneud hynny, a dod â'r pum brenin allan o'r ogof – brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon. 24Dyma Josua yn galw pobl Israel ato, a dweud wrth gapteiniaid y fyddin, “Dewch yma, a gosod eich traed ar yddfau y brenhinoedd yma.” A dyna wnaethon nhw. 25Yna dyma Josua'n dweud, “Peidiwch bod ag ofn a panicio! Byddwch yn gryf a dewr! Bydd yr Arglwydd yn gwneud yr un fath i'ch gelynion chi i gyd.” 26Yna dyma Josua yn dienyddio'r brenhinoedd, ac yn hongian eu cyrff ar bum coeden. Cawson nhw eu gadael yno yn hongian nes iddi nosi. 27Wedi i'r haul fachlud dyma Josua yn gorchymyn i'r cyrff gael eu cymryd i lawr. Yna dyma nhw'n taflu'r cyrff i'r ogof lle roedden nhw wedi bod yn cuddio, a rhoi cerrig mawr dros geg yr ogof – maen nhw'n dal yna hyd heddiw.Ennill mwy o dir yn y de
28Y diwrnod hwnnw hefyd dyma Josua yn concro tref Macceda, a lladd y bobl i gyd a'u brenin. Cafodd pawb eu lladd. Doedd dim un person wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho. 29Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau i Libna, i ymosod ar y dref honno. 30Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho. 31Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish. 32Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Dyma nhw'n llwyddo i'w choncro ar yr ail ddiwrnod. A dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna. 33Daeth y brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, ond dyma Josua yn ei ladd e a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. 34Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Lachish i ymosod ar Eglon. 35Dyma nhw'n concro'r dref y diwrnod hwnnw, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Lachish. 36Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Eglon i ymosod ar Hebron. 37Dyma nhw'n concro'r dref, lladd ei brenin a phawb oedd yn byw yno, ac yn y pentrefi o'i chwmpas hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Eglon. 38Yna dyma Josua a byddin Israel yn troi yn ôl i ymosod ar Debir. 39Dyma nhw'n ei choncro hi a'i brenin a'r pentrefi o'i chwmpas, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd. Doedd neb ar ôl. Cafodd Debir ei dinistrio'n llwyr, a'i brenin ei ladd, fel digwyddodd i Libna a'i brenin, ac i Hebron. 40Roedd Josua wedi concro'r ardal gyfan – y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir a'r llethrau i'r gorllewin, a'u brenhinoedd i gyd. Doedd neb ar ôl. Cafodd pob enaid byw ei ladd, yn union fel roedd yr Arglwydd, Duw Israel wedi gorchymyn. 41Roedd wedi concro'r ardal gyfan o Cadesh-barnea i Gasa ac o Gosen i Gibeon. 42Llwyddodd Josua i ddal y brenhinoedd yma i gyd a'i tiroedd, am fod yr Arglwydd, Duw Israel, yn ymladd drostyn nhw. 43Wedyn dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024