dSalm 78:24 (sy'n cyfeirio at yr hanes yn Exodus 16:4-36; neu Nehemeia 9:15) (gw. hefyd Salm 105:40)
John 6
Bwydo'r pum mil
(Mathew 14:13-21; Marc 6:30-44; Luc 9:10-17) 1Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias). 2Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld yr arwyddion gwyrthiol o iacháu pobl oedd yn sâl. 3Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion. 4Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon) yn agos. 5Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod tuag ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni'n mynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?” 6(Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu'n gwybod beth oedd e'n mynd i'w wneud). 7Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn ▼▼6:7 ffortiwn: Mae'r Groeg yn dweud “200 darn arian”, sef bron cyflog blwyddyn.
i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!” 8Yna dyma un o'r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud, 9“Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd ▼▼6:9 torth haidd Torthau bach crwn fflat.
a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!” 10Dwedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma'r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. 11Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl dweud gweddi o ddiolch, eu rhannu i'r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda'r pysgod, a chafodd pawb cymaint ag oedd arnyn nhw eisiau. 12Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.” 13Felly dyma nhw'n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda'r tameidiau o'r pum torth haidd oedd heb eu bwyta. 14Ar ôl i'r bobl weld yr arwydd gwyrthiol hwn, roedden nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai hwn ydy'r Proffwyd ▼▼6:14 y Proffwyd: gw. y nodyn ar 1:21.
ddwedodd Moses ei fod yn dod i'r byd.” 15Gan fod Iesu'n gwybod eu bod nhw'n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny'r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun. Iesu'n cerdded ar y dŵr
(Mathew 14:22-27; Marc 6:45-52) 16Pan oedd hi'n dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn, 17a mynd i mewn i gwch i groesi'r llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hi'n dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto. 18Roedd y tonnau wedi dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu. 19Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn, 20ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” 21Yna roedden nhw'n fodlon ei dderbyn i'r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw'n anelu ati. 22Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw i'r llyn. Roedden nhw'n gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw. 23Ond roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell o'r lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl i'r Arglwydd roi diolch. 24Pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na'i ddisgyblion chwaith, dyma nhw'n mynd i mewn i'r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano.Iesu, Bara'r Bywyd
25Pan ddaethon nhw o hyd iddo ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw'n gofyn iddo, “Rabbi, pryd ddest ti yma?” 26Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, dych chi'n edrych amdana i am eich bod wedi bwyta'r torthau a llenwi'ch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth. 27Dim y math o fwyd sy'n difetha dylech chi ymdrechu i'w gael, ond y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol – fi, Mab y Dyn sy'n rhoi'r bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i.” 28Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth sydd raid i ni ei wneud? Beth mae Duw yn ei ofyn gynnon ni?” 29Atebodd Iesu, “Dyma beth mae Duw am i chi ei wneud: credu ynof fi, yr un mae wedi ei anfon.” 30Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn ni'n credu ynot ti wedyn. Beth wyt ti am ei wneud? 31Cafodd ein hynafiaid y manna i'w fwyta yn yr anialwch. Mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Rhoddodd fara o'r nefoedd iddyn nhw i'w fwyta.’” d 32Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o'r nefoedd i chi; fy Nhad sy'n rhoi bara o'r nefoedd i chi nawr – y bara go iawn. 33Bara Duw ydy'r un sy'n dod i lawr o'r nefoedd ac yn rhoi bywyd i'r byd.” 34“Syr,” medden nhw, “o hyn ymlaen rho'r bara hwnnw i ni.” 35Yna dyma Iesu'n datgan, “Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi ddim yn sychedu. 36Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi'n dal ddim yn credu. 37Bydd pawb mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy'n dod ata i. 38Dw i ddim wedi dod i lawr o'r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae'r hwn anfonodd fi eisiau. 39A dyma beth mae'r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i'n colli neb o'r rhai mae wedi eu rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. ▼▼6:39 y dydd olaf: Pan fydd Duw yn barnu pawb.
40Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy'n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i'n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.” 41Ond dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydy'r bara ddaeth i lawr o'r nefoedd.” 42“Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn ni'n nabod ei dad a'i fam. Sut mae'n gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr o'r nefoedd’?” 43“Stopiwch gwyno ymhlith eich gilydd,” meddai Iesu. 44“Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. 45Mae'n dweud yn ysgrifau'r Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.’ f Mae pawb sy'n gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i. 46Ond does neb wedi gweld y Tad. Dim ond yr un sydd wedi dod oddi wrth Dduw sydd wedi gweld y Tad – neb arall. 47Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy'n credu. 48Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. 49Er bod eich hynafiaid wedi bwyta'r manna yn yr anialwch, buon nhw farw. 50Ond mae'r bara sy'n dod i lawr o'r nefoedd yn cael ei fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw. 51A fi, sydd wedi dod i lawr o'r nefoedd, ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Os ydy rhywun yn bwyta'r bara hwn bydd yn byw am byth. A'r bara dw i'n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i'r byd gael byw.” 52Dyma'r arweinwyr Iddewig yn dechrau ffraeo'n filain gyda'i gilydd. “Sut all y dyn hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” medden nhw. 53Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd. 54Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy'n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. 55Oherwydd mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a'm gwaed i yn ddiod go iawn. 56Mae gan y rhai sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i berthynas agos gyda mi, ac mae gen i berthynas agos gyda nhw. 57Yn union fel mae'r Tad byw wedi fy anfon i, a dw i'n byw o achos y Tad, bydd yr un sy'n bwydo arna i yn byw o'm hachos i. 58Mae'n wahanol i'r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o'r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn byw am byth.” Llawer o ddisgyblion yn troi cefn ar Iesu
59Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd. 60Ond ymateb llawer o'i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Mae'n dweud pethau rhy galed. Pwy sy'n mynd i wrando arno?” 61Roedd Iesu'n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi'n mynd i droi cefn arna i? 62Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i ble roeddwn i o'r blaen? 63Ysbryd Duw sy'n rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi yn dod o'r Ysbryd ac yn rhoi bywyd. 64Ac eto mae rhai ohonoch chi yn gwrthod credu.” (Roedd Iesu'n gwybod o'r dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd i'w fradychu e.) 65Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi'r gallu iddyn nhw ddod.” 66Ar ôl hyn dyma nifer o'i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio ei ddilyn. 67“Dych chi ddim yn mynd i adael hefyd, ydych chi?” meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl. 68“Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt ti'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. 69Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn ni'n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.” 70Ond yna dyma Iesu'n dweud, “Onid fi ddewisodd chi'r deuddeg? Ac eto mae un ohonoch chi'n ddiafol!” 71(Jwdas, mab Simon Iscariot oedd yn ei olygu, yr un oedd yn mynd i'w fradychu yn nes ymlaen – er ei fod yn un o'r deuddeg disgybl.)
Copyright information for
CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024