Ezekiel 23
Dwy chwaer anffyddlon a
1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, roedd yna ddwy wraig oedd yn ferched i'r un fam. 3Pan oedden nhw'n ifanc iawn dyma nhw'n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw'n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff. 4Enw'r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw'r ifancaf oedd Oholiba. Roeddwn i wedi eu priodi nhw, a dyma nhw'n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.) 5“Roedd Ohola yn actio fel putain pan oedd hi hefo fi, ac yn ysu am gael rhyw gyda'i chariadon – swyddogion milwrol Asyria 6yn eu lifrai porffor, capteiniaid a swyddogion eraill; dynion golygus i gyd, yn farchogion yn y cafalri. 7Roedd hi'n rhoi ei hun iddyn nhw – dynion ifanc gorau Asyria i gyd. Roedd hi'n halogi ei hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw ac yn rhoi ei hun iddyn nhw. 8Roedd hi'n dal ati i buteinio fel roedd hi'n gwneud pan yn ferch ifanc yn yr Aifft, yn gadael i ddynion gael rhyw gyda hi, anwesu ei bronnau, a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau. 9Felly dyma fi'n gadael i'w chariadon, yr Asyriaid, ei chael hi – dyna oedd hi eisiau. 10Dyma nhw'n rhwygo ei dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu. 11“Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi'n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi'n hollol wyllt – fel hwren hollol lac ei moesau! 12Roedd hi'n ysu am gael rhyw gyda'r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri – dynion ifanc golygus i gyd. 13Ro'n i'n gweld ei bod wedi halogi ei hun, a mynd yr un ffordd â'i chwaer. 14“Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na'i chwaer! Dyma hi'n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi eu cerfio'n goch llachar ar waliau. 15Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a twrban hardd ar ei ben. Roedden nhw'n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o'r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea. ▼▼23:15,23 Caldea Hen enw ar ddeheudir gwlad Babilon
16Pan welodd hi'r lluniau roedd hi'n ysu i'w cael nhw, a dyma hi'n anfon gwahoddiad iddyn nhw ddod ati. 17Felly dyma'r Babiloniaid yn dod ac yn neidio i'r gwely gyda hi. Dyma nhw'n ei halogi a'i threisio hi, nes iddi hi wedyn droi yn eu herbyn nhw am beidio dangos parch ati. 18“A dyna sut wnes i ymateb iddi hi, am orwedd yn ôl a chynnig ei hun iddyn nhw mor agored! Roeddwn i wedi ymateb yr un fath i'w chwaer. 19Ond doedd hi'n poeni dim! Aeth o ddrwg i waeth! Roedd hi'n dal i actio fel y butain yn yr Aifft pan oedd hi'n eneth ifanc! 20Roedd ganddi hiraeth am ei chariadon Eifftaidd oedd â pidynnau fel asynnod, ac yn bwrw had fel stalwyni. 21Dyna sut roedd hi'n cofio'i hymddygiad yn eneth ifanc, gyda dynion yr Aifft yn anwesu ei chorff ac yn gafael yn ei bronnau. 22“Felly, Oholiba, ▼▼23:22 Oholiba sef, Jerwsalem (gw. adnod 4).
dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wneud i'r cariadon ▼▼23:22 cariadon Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
wnest ti droi yn eu herbyn nhw godi yn dy erbyn di. Byddan nhw'n ymosod arnat ti o bob cyfeiriad – 23y Babiloniaid a pobl Caldea i gyd, llwythau Pecod, Shoa a Coa, a'r Asyriaid i gyd. Dynion ifanc golygus, yn swyddogion a chapteiniaid, cadfridogion ac arwyr milwrol – i gyd yn y cafalri. 24Byddan nhw'n ymosod arnat ti gyda'i cerbydau, wagenni, a byddin enfawr. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhengoedd o dy gwmpas di, gyda'i tariannau bach a mawr ac yn gwisgo'u helmedau. Bydda i'n gadael iddyn nhw dy gosbi di yn ôl eu safonau eu hunain. 25“Dw i wedi cynhyrfu, a dw i'n mynd i ddangos i ti mor wyllt ydw i! Bydd y fyddin sy'n ymosod arnat ti yn dy drin di'n gwbl farbaraidd! Byddan nhw'n torri trwynau a chlustiau pobl i ffwrdd, ac yn lladd pawb yn gwbl ddidrugaredd. Byddan nhw'n cymryd dy blant yn gaethion, a bydd pawb sydd ar ôl yn cael eu llosgi'n fyw. 26Byddan nhw'n tynnu dillad pobl oddi arnyn nhw, ac yn dwyn eu tlysau hardd. 27Dw i'n mynd i roi stop ar dy ymddygiad anweddus di, a'r holl buteinio ddechreuodd yn yr Aifft! Fyddi di ddim yn edrych yn ôl yn hiraethus ar y dyddiau yna byth eto! 28“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw, dw i'n mynd i dy roi di yn nwylo'r bobl hynny rwyt ti'n eu casáu, sef y cariadon hynny wnest ti droi cefn arnyn nhw. 29Byddan nhw'n gas atat ti, yn cymryd popeth wyt ti wedi gweithio amdano ac yn dy adael di'n noeth. Bydd pawb yn dy weld di'n noeth, fel pan roeddet ti'n byw'n anweddus ac yn puteinio. 30Bydd hyn i gyd yn digwydd am dy fod ti wedi puteino gyda gwledydd paganaidd a llygru dy hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw. 31Ti wedi mynd yr un ffordd â dy chwaer, a bydd cwpan y farn yfodd hi ohono yn cael ei basio ymlaen i ti. 32“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Byddi'n yfed o gwpan dy chwaer –cwpan fawr, ddofn,
yn llawn i'r ymylon
(a bydd pawb yn gwneud hwyl ar dy ben.)
33Byddi'n hollol feddw ac yn y felan:
Mae cwpan dy chwaer, Samaria,
yn gwpan dychryn a dinistr.
34Byddi'n yfed pob diferyn
cyn ei falu'n ddarnau
ac yna rhwygo dy fronnau.
“Fi ydy'r Arglwydd, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. 35“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod ti wedi anghofio amdana i, a troi dy gefn yn llwyr arna i, bydd rhaid i ti wynebu canlyniadau'r ymddygiad anweddus a'r puteinio.” 36A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn ar Ohola ac Oholiba? ▼
▼23:36 Ohola ac Oholiba sef, Samaria a Jerwsalem (gw. adnod 4).
Dywed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod! 37Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi'n aberth. 38Ar ben y cwbl maen nhw wedi halogi'r cysegr a diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. 39Yr un diwrnod ac roedden nhw'n lladd eu meibion i'r eilun-dduwiau, roedden nhw'n dod i mewn i'r deml i addoli! Halogi'r cysegr, fy nhŷ i! 40“Ac wedyn roedden nhw'n anfon negeswyr i wlad bell i ofyn am help. A beth wnest ti pan wnaeth y rheiny gyrraedd? Cael bath, rhoi colur ar dy lygaid, a gwisgo dy dlysau. 41Wedyn gorwedd yn ôl ar soffa grand, a bwrdd llawn o'i blaen gydag arogldarth ac olew arno – fy rhai i! 42Roedd sŵn tyrfa o bobl yn diota a chael amser da gyda ti – dynion o bob man, hyd yn oed Sabeaid o'r anialwch. Roedden nhw'n rhoi breichledau i'r chwiorydd, a tiaras hardd i'w gwisgo ar eu pennau. 43“A dyma fi'n dweud, ‘Os ydyn nhw wir eisiau putain fel hon sydd wedi hen ddarfod amdani, cân nhw gario ymlaen!’ 44A dyna ddigwyddodd. Dyma nhw'n mynd at y ddwy, Ohola ac Oholiba, i gael rhyw. Merched hollol wyllt ac anfoesol! 45Ond bydd dynion cyfiawn yn eu barnu nhw, a rhoi'r gosb maen nhw'n ei haeddu am odinebu a thywallt gwaed. Dyna'n hollol maen nhw'n euog o'i wneud. 46“Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dewch â byddin yn eu herbyn nhw i greu dychryn ac i ddwyn oddi arnyn nhw! 47Bydd y fyddin yn eu lladd drwy daflu cerrig atyn nhw, ac yn eu taro nhw i lawr gyda chleddyfau. Bydd yn lladd eu plant nhw ac yn llosgi eu tai! 48Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl ymddygiad anweddus yma, er mwyn i wragedd eraill ddysgu gwers a peidio gwneud yr un peth. 49Byddan nhw'n talu'n ôl i ti am y ffordd rwyt ti wedi ymddwyn. Byddi'n cael dy gosbi am bechu gyda dy eilun-dduwiau. A byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr Arglwydd.”
Copyright information for
CYM
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
- How do I look up a passage?
- How do I see three Bibles at once?
- How do I find a parallel gospel passage?
- How do I follow a Bible reading plan?
- How do I also see a commentary?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
2) Click the resource for parallel gospel passage
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
1) Click the Bible button.
2) Click on Commentaries
2) Click on Commentaries
How do I find words and phrases?
- How do I find words or topics?
- How do I search only some books in the Bible?
- How do I find a Greek or Hebrew word?
- How do I find a word only where it relates to a topic?
- How do I find more about search?
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
1) Click on the search button
2) Click on Range
3) Select the books that you wish to search
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
1) Click on the search button
2) Click on the Hebrew or Greek tab
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
Video guide
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
1) Click on the search button
2) Click on the English tab
3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself.
4) Click on one of the words or topics listed
How do I do a word study?
- What information can I find about a word?
- Meaning: how the word is used throughout the Bible
- Dictionary: academic details about the word
- Related words: similar in meaning or origin
- Grammar: (only available for some Bibles)
- Why do only some Bibles have clickable words?
- What does “~20x” or “Frequency” mean?
- Why do some words have dropdown next to the frequency number?
- Where do I find the maps?
- How do I get the word frequency for a chapter or a book?
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Video guide
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
1st method:
Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method:
1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
Video guide
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
1) Click on the analysis icon.
2) Click on the "Selected passage" button if no analysis is shown.
How do I find more information on original languages?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew transliteration for my Bible?
- How do I see Greek/Hebrew vocabulary for a verse?
- How can I view multiple Bibles together as an Interlinear?
- How do I see the various versions of the Greek OT?
- How do I display the color-coded grammar?
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Greek / Hebrew". Original language vocab will be shown.
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the Vocab feature
3) Click on the Option button, then click "Interlinear options”, then select "Transliteration".
Video guide
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
1) Click on the verse number to list the words and meanings
2) Hover over or click on a word for more details about the word
Video guides
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select two Bible with the vocabulary feature
3) Click on the Option button, then click Interlinear”. Interlinear will be shown.
1) Click on the Bible translation button
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
2) Select “Ancient” for the language
3) Scroll down to see the Greek OT translations
Examples
Video guide
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
1) Click on the Bible translation button
2) Refer to the legend and select the Bible translations with the grammar feature
3) Click on "G" or "Grammar" at the navigation bar. The text will then be color coded.
Examples
© STEPBible - 2024