‏ Deuteronomy 26

Cyflwyno'r ffrwythau cyntaf i Dduw

1“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad mae'r Arglwydd eich Duw yn ei rhoi i chi, ac wedi ei choncro a setlo i lawr ynddi, 2rhowch ffrwyth cyntaf pob cnwd i'r Arglwydd. Rhowch e mewn basged, a mynd ag e i'r lle mae'r Arglwydd wedi ei ddewis i gael ei addoli. 3Dwedwch wrth yr offeiriad sy'n gwasanaethu bryd hynny, ‘Dw i'n datgan heddiw fy mod i'n byw yn y wlad wnaeth yr Arglwydd dy Dduw addo i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ni.’

4“Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y fasged a'i gosod o flaen allor yr Arglwydd. 5Yna rhaid i ti wneud y datganiad yma: ‘Syriad yn crwydro yma ac acw oedd fy hynafiad. Aeth i lawr i'r Aifft a byw yno fel mewnfudwr. Criw bach oedd yn y teulu bryd hynny, ond dyma nhw'n tyfu i fod yn genedl fawr, bwerus a niferus. 6Ond dyma'r Eifftiaid yn ein cam-drin ni a'n gormesu ni, a'n gorfodi ni i wneud gwaith caled. 7Felly dyma ni'n galw ar yr Arglwydd, Duw ein hynafiaid, am help. Clywodd ni'n galw, a gwelodd mor anodd oedd pethau arnon ni, a'r gwaith caled a'r gorthrwm. 8Felly dyma'r Arglwydd yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol. 9Yna daeth â ni yma, a rhoi'r tir yma i ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. 10Felly, Arglwydd, edrych! Dw i wedi dod â ffrwyth cyntaf cynnyrch y tir wyt ti wedi ei roi i mi.’ Yna rwyt i'w adael o flaen yr Arglwydd dy Dduw, a'i addoli e. 11Wedyn gelli di a dy deulu, gyda'r Lefiaid a'r mewnfudwyr sydd gyda chi, ddathlu a mwynhau yr holl bethau da mae'r Arglwydd eich Duw wedi eu rhoi i chi.

Rhoi degwm y drydedd flwyddyn i'r tlodion

12“Ar ôl casglu un rhan o ddeg o'ch cynnyrch yn y drydedd flwyddyn (blwyddyn y degwm), dych chi i'w roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a'r gweddwon sy'n byw yn eich pentrefi chi, er mwyn iddyn nhw gael digon i'w fwyta. 13Yna rwyt i ddweud wrth yr Arglwydd dy Dduw, ‘Dw i wedi casglu'r offrwm sydd i gael ei osod o'r neilltu, ac wedi ei roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon, yn union fel rwyt ti wedi dweud wrtho i. Dw i ddim wedi torri nac anghofio dy reolau di. 14Dw i ddim wedi bwyta peth ohono pan oeddwn i'n galaru, na'i gymryd pan oeddwn i'n aflan yn seremonïol, na cyflwyno peth ohono'n offrwm i'r meirw. Dw i wedi bod yn ufudd i ti, a gwneud popeth oeddet ti'n ddweud. 15Edrych i lawr arnon ni o'r nefoedd, y lle sanctaidd ti'n byw ynddo, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir wyt ti wedi ei roi i ni, fel gwnest ti addo i'n hynafiaid – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!’

16“Heddiw mae'r Arglwydd yn gorchymyn i chi gadw'r rheolau a'r canllawiau yma, a gwneud hynny â'ch holl galon ac â'ch holl enaid. 17Heddiw dych chi wedi datgan mai'r Arglwydd ydy'ch Duw chi, ac y gwnewch chi fyw fel mae e eisiau i chi fyw, cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ganllawiau, a gwrando arno. 18Heddiw mae'r Arglwydd wedi cyhoeddi mai chi ydy ei bobl e – ei drysor sbesial, fel gwnaeth e addo. Felly dylech gadw ei orchmynion e. 19Duw sydd wedi gwneud y cenhedloedd, ond bydd yn eich gwneud chi'n fwy enwog na nhw i gyd. Bydd pobl yn eich canmol chi a'ch anrhydeddu chi. Fel gwnaeth e addo, byddwch chi'n bobl wedi eich cysegru i'r Arglwydd eich Duw.”

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.