(1 Cronicl 13:1-14; 15:25—16:6,43) 1Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw. 2Dyma nhw'n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr Arglwydd holl-bwerus, sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid.3Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert – Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen. 5Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen yr Arglwydd, a canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau.6Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw. 7Roedd yr Arglwydd wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro'n farw yn y fan a'r lle wrth ymyl Arch Duw.8Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr Arglwydd wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.9Roedd yr Arglwydd wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch yr Arglwydd ddod ata i?” meddai. 10Doedd e ddim yn fodlon gadael i Arch yr Arglwydd fynd gydag e i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath. 11Arhosodd Arch yr Arglwydd yn nhŷ Obed-edom am dri mis. A dyma'r Arglwydd yn bendithio Obed-edom a'i deulu i gyd.12Daeth Dafydd i glywed fod yr Arglwydd wedi bendithio Obed-edom a'i deulu am fod Arch Duw yno. Felly dyma Dafydd yn mynd i dŷ Obed-edom i'w nôl hi, a mynd â hi i Ddinas Dafydd, gyda dathlu mawr. 13Pan oedd y rhai oedd yn cario Arch yr Arglwydd wedi cerdded dim ond chwe cham, dyma Dafydd yn aberthu ychen a llo wedi ei besgi i Dduw.14Roedd Dafydd yn gwisgo effod o liain main, ac yn dawnsio â'i holl egni o flaen yr Arglwydd. 15Roedd e a holl bobl Israel yn hebrwng Arch yr Arglwydd gan weiddi'n llawen a chanu'r corn hwrdd ▼
. 16Wrth i Arch yr Arglwydd gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal, merch Saul, yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin yn neidio a dawnsio o flaen yr Arglwydd, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.17Dyma nhw'n dod ag Arch yr Arglwydd, a'i gosod yn ei lle yn y babell roedd Dafydd wedi ei chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau i'w llosgi, ac offrymau i gydnabod daioni'r Arglwydd. 18Wedi i Dafydd orffen offrymu'r anifeiliaid, dyma fe'n bendithio'r bobl ar ran yr Arglwydd holl-bwerus. 19Ac wedyn dyma fe'n rhannu bwyd i holl bobl Israel, y dynion a'r merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen ddatys a teisen rhesin. Yna aeth pawb adre.20Pan aeth Dafydd adre i fendithio ei deulu ei hun, dyma Michal, merch Saul, yn dod allan i'w gyfarfod. Ac meddai wrtho, “Wel, wel! Dylech fod wedi gweld brenin Israel heddiw! Dyna ble roedd e yn fflachio o flaen caethferched ei swyddogion, yn dangos popeth iddyn nhw fel rhyw ffŵl coman!” 21Ond dyma Dafydd yn ei hateb, “Na, dawnsio o flaen yr Arglwydd oeddwn i – yr un wnaeth fy newis i yn lle dy dad a dy deulu di. Dewisodd fi yn arweinydd ar bobl Israel, pobl yr Arglwydd. O'i flaen e 22dw i'n fodlon gwneud mwy o ffŵl ohono i fy hun. Falle fod gen ti gywilydd ohono i, ond bydd y caethferched wyt ti'n sôn amdanyn nhw yn fy mharchu i!”23Wnaeth Michal, merch Saul, ddim cael plant o gwbl.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?