1Meibion Reuben, mab hynaf Israel (Reuben oedd y mab hynaf, ond am ei fod wedi cael rhyw gydag un o gariadon ei dad, dyma fe'n colli safle'r mab hynaf. Meibion Joseff, mab Israel, gafodd y safle yna yn ei le. Felly dydy'r achau ddim yn cael eu cyfrif yn ôl trefn geni. 2Er bod Jwda wedi dod yn gryfach na'i frodyr, ac arweinydd wedi codi o'i ddisgynyddion, roedd safle'r mab hynaf yn mynd i Joseff.)3Meibion Reuben (mab hynaf Israel): Hanoch, Palw, Hesron, a Carmi.4Disgynyddion Joel: Shemaia ei fab, wedyn Gog mab hwnnw, ac ymlaen drwy Shimei, 5Micha, Reaia, Baal, 6i Beëra oedd wedi cael ei gymryd yn gaeth gan Tiglath-pileser, brenin Asyria. Beëra oedd pennaeth llwyth Reuben.7Dyma ei frodyr wedi eu rhestru yn ôl y drefn yn y cofrestrau teuluol: Y pennaeth oedd Jeiel, yna Sechareia, 8yna Bela fab Asas, ŵyr Shema a gor-ŵyr Joel. Roedd y rhain yn byw yn Aroer, a'u tir yn ymestyn i Nebo a Baal-meon. 9I'r dwyrain roedd eu tir yn cyrraedd ymyl yr anialwch sydd yr ochr yma i'r Afon Ewffrates. Roedd angen y tir yma i gyd am fod ganddyn nhw ormod o anifeiliaid i'w cadw yn Gilead. 10Pan oedd Saul yn frenin dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid a'u trechu nhw. Dyma nhw'n cymryd y tir i gyd sydd i'r dwyrain o Gilead.
Disgynyddion Gad
11Roedd disgynyddion Gad yn byw wrth eu hymyl, yn Bashan, a'r holl ffordd i Salca yn y dwyrain:12Joel oedd yr arweinydd, wedyn Shaffam, Janai a Shaffat yn Bashan. 13Eu perthnasau nhw, arweinwyr saith clan arall, oedd Michael, Meshwlam, Sheba, Iorai, Jacan, Sïa, ac Eber.14Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Afichaïl fab Chwri, mab Iaroach, mab Gilead, mab Michael, mab Ieshishai, mab Iachdo, mab Bws. 15Achi, mab Afdiel ac ŵyr i Gwni oedd pennaeth y clan. 16Roedden nhw'n byw yn Gilead ac ym mhentrefi Bashan, a drwy dir pori Saron i'r pen draw pellaf. 17Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn y cofrestrau teuluol pan oedd Jotham yn frenin Jwda, a Jeroboam yn frenin ar Israel.
Y llwythau wnaeth setlo i'r dwyrain o'r Iorddonen
18Rhwng y tri llwyth (Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse) roedd 44,760 o ddynion dewr oedd yn gallu ymladd. Roedd y rhain yn cario tarian a chleddyf, yn gallu trin bwa saeth, ac yn rhyfelwyr da. 19Dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid, Ietwr, Naffish, a Nodab. 20Cawson nhw help Duw i ymladd, a llwyddo i drechu'r Hagriaid a pawb oedd gyda nhw. Roedden nhw wedi galw ar Dduw yng nghanol y frwydr, a gofyn iddo am help. A dyma Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw wedi ymddiried ynddo. 21Yna dyma nhw'n cymryd anifeiliaid yr Hagriaid – 50,000 o gamelod, 250,000 o ddefaid, a 2,000 o asynnod. Dyma nhw hefyd yn cymryd 100,000 o bobl yn gaethion. 22Am mai rhyfel Duw oedd hwn cafodd llawer iawn o'r gelynion eu lladd. Buon nhw'n byw ar dir yr Hagriaid hyd amser y gaethglud.23Dyma hanner llwyth Manasse yn setlo yn yr ardal hefyd. Roedd yna gymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw ymledu o Bashan i Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon.24Dyma benaethiaid eu teuluoedd nhw: Effer, Ishi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, ac Iachdiel. Roedd y penaethiaid hyn yn filwyr profiadol ac yn enwog.
Caethgludo'r llwythau oedd yn byw i'r dwyrain o'r Iorddonen
25Ond dyma nhw'n troi eu cefnau ar Dduw eu hynafiaid a mynd ar ôl duwiau pobl y wlad (y bobl oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.) 26Felly dyma Duw yn annog Pwl, sef Tiglath-pileser, brenin Asyria, i fynd â phobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse i'r gaethglud. Dyma fe'n mynd â nhw i Halach, Chabor, Hara ac at afon Gosan. Ac maen nhw yno hyd heddiw.
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number. Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.
Welcome to STEP Bible
A simplified search is now available!
Here are the frequently asked questions:
How do I read passages in Bibles?
How do I look up a passage?
Video guide Click the Passage button for a chapter or references.
How do I see three Bibles at once?
Video guide Click the Bible button to select one or several Bibles.
How do I find a parallel gospel passage?
1) Click the Resource icon.
2) Click the resource for parallel gospel passage
How do I follow a Bible reading plan?
1) Click the Resource icon.
2) Plans for 1/2/3 years, chronological, Jewish etc
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?