‏ 1 Chronicles 20

Dafydd yn concro Rabba

(2 Samuel 12:26-31)

1Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Joab yn arwain ei fyddin i ryfel a dinistrio gwlad yr Ammoniaid. Dyma fe'n gwarchae ar Rabba tra roedd Dafydd yn dal yn Jerwsalem, a dyma Joab yn concro Rabba a'i dinistrio. 2Dyma Dafydd yn cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd. 3Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin gyfan.

Brwydrau rhwng Israel a'r Philistiaid

(2 Samuel 21:15-22)

4Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Geser. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Sippai, un o ddisgynyddion y Reffaiaid. Roedd y Philistiaid wedi eu trechu'n llwyr.

5Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid, dyma Elchanan fab Jair yn lladd Lachmi, brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)

6Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar ei ddwylo a'i draed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.) 7Roedd yn gwneud hwyl am ben Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma
20:7 Shamma Hebraeg,  Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13)
brawd Dafydd, yn ei ladd e.
8Roedd y rhain yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.